Gwely
Wedi’i leoli ochr yn ochr ag argae Pen y Garreg, Tŷ Penbont yw’r unig lety gwely a brecwast, yng nghanol Cwm Elan. Ymgollwch yn y tirwedd prydferth, sy’n llawn hanes, gyda natur a bywyd gwyllt ar drothwy’ch drws.
Mae Tŷ Penbont wedi ei ailwampio a’i helaethu i gynnig 5 ystafell ensuite, er mwyn i chi allu eistedd, ymlacio a chael hoe o fwrlwm bob dydd. Mae’r llecyn tawel yma yn ysblennydd ym mhob tywydd – boed glaw neu hindda – ac yn cynnig y man perffaith i chi ddarganfod Cwm Elan a Mynyddoedd y Cambria.
GWELER Y DUDALEN CYFARWYDDIADAU AM RAGOR O WYBODAETH