Ymweld
Gyda Thŷ Penbont wedi’i leoli yng nghanol Cwm Elan, mae ymweld yma yn siwr o ymhyfrydu ac ysbrydoli! P’un a’i ydych eisiau cerdded, seiclo neu yrru yn y car mae digon i’w weld. Darganfyddwch Gwm Elan, ewch i Raeadr, neu ewch ar draws Fynyddoedd y Cambria.
Darganfyddwch Gwm Elan
Mae Cwm Elan yn ardal hyfryd, ac yn fwy hudol gyda’r argaeau a’r cronfeydd dŵr, sy gyda’i gilydd yn creu tirwedd rhyfeddol a byw. Yn ychwanegol, rydym yn gorwedd yng nghanol Mynyddoedd y Cambria, felly nid ydych byth ymhell oddi wrth antur, diddordeb gwahanol neu olygfa godidog.
Mae’r argaeau a’r cronfeydd dŵr, sef etifeddiaeth peirianneg hynod y Fictoriaid, yn ychwanegu at y golygfeydd hudol sy’n newid yn aml. Fe allwch fynd am dro, cael picnic, neu heicio; seiclo neu seiclo mynydd; edrych am adar, pysgota neu ewch ar safari!

Darganfyddwch Raeadr
Am 52 wythnos y flwyddyn, mae digon i’w weld a gwneud yn Rhaeadr. Mae Cwm Elan yn cynnig golygfeydd godidog, cerdded rhyfeddol a rhai o’r llwybrau seiclo mynydd gorau yn Ynysoedd Prydain. Mae’r ardal yn enwog am ei bywyd gwyllt prin a phrydferth – yn bennaf y Barcutiaid Coch godidog a gellir eu gweld yn hawdd ar Fferm Gigrin.
DARGANFYDDWCH FWYDarganfyddwch Mynyddoedd y Cambria
Mae Mynyddoedd y Cambria yn anghysbell gyda phoblogaeth gwasgarog, ac fe’u disgrifiwyd gan awduron y gorffennol fel “Anialwch Gwyrdd Cymru” – nid y llysenw mwyaf addawol am un o dirweddau mwyaf hyfryd, lliwgar ac amrywiol de Prydain!
DARGANFYDDWCH FWYDarganfod Wybren Dywyll
Mae gan Ystâd Cwm Elan un o’r wybrennau tywyll mwyaf syfrdanol yn Ewrop. Yma, mae’r Llwybr Llaethog yn pontio’n fawreddog ar draws yr wybren, gan ei wneud yn le arbennig ar gyfer syllu ar y sêr neu ffotograffiaeth nos.
Yn 2015, dyfarnwyd Statws Parc Wybren Dywyll Ryngwladol gan yr International Dark Sky Association (IDA) i Ystâd Cwm Elan, sy’n golygu fod yr ardal yn cael ei gwarchod rhag llygredd goleuni gwneud.
Darganfod yr ardal leol
Mae cymaint i’w wneud ac i’w weld yn ystod eich arhosiad, boed glaw neu hindda. Mae gennych ddigon o ddewis.
Darganfyddwch fwy